Mae Madeleine yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Mark a’i mab tair oed Lorcan. Mae archwilio, mwynhau a diogelu mannau gwyrdd a glas Caerdydd yn rhan fawr o fywyd bob dydd. Pan nad yw’n rhedeg o gwmpas parciau, yn tasgu yn yr afon, yn ceisio cofio enwau adar a phlanhigion, neu’n chwilio am unrhyw gyfle i wneud pethau’n wyrddach (!), mae Madeleine yn gweithio’n llawrydd i wahanol elusennau gan eu helpu gyda strategaethau, eiriolaeth ac ymgyrchu, a i gyflwyno rhaglenni.

Mae Madeleine yn gwybod bod Caerdydd yn lle anhygoel i fyw – gyda mannau gwyrdd hardd, ein glan môr ein hunain, a chymunedau hynod amrywiol – sy’n ei wneud yn lle gwyrddach, gwylltach a thecach i bawb sy’n galw Caerdydd yn gartref (pobl ac anifeiliaid!) fel byddai Parc Cenedlaethol yn ei wneud hyd yn oed yn well. Cysylltwch os oes gennych syniadau neu feddyliau.